Publication information |
Source: Lamp Source type: magazine Document type: article Document title: “Yr Arlywydd McKinley” Author(s): D. Date of publication: October 1901 Volume number: 5 Issue number: 58 Pagination: 312 |
Citation |
D. “Yr Arlywydd McKinley.” Lamp Oct. 1901 v5n58: p. 312. |
Transcription |
full text |
Keywords |
McKinley assassination; William McKinley (presidential character); William McKinley (religious character). |
Named persons |
Leon Czolgosz; Abraham Lincoln; William McKinley; Theodore Roosevelt; George Washington. |
Notes |
The text below is reproduced as given in the original source. Language errors (if any) are likewise reproduced. |
Document |
Yr Arlywydd McKinley
YN y Temple of Music, Pan-American Exposition, Buffalo, New York, prydnawn
Gwener, Medi 6, 1901, pan ar ganol ysgwyd llaw a’r bobl, saethwyd dwy ergyd
i fynwes ein Harlywydd, William McKinley, gan ddyn ieuanc o’r enw, Leon Czolgosz,
genedigol o Poland, ac aelod o undeb yr Anarchiaid—sydd yn dysgu diddymiad y
llywodraethau gwladol trwy lofruddiaethau, a rhaniad cyfoeth y gwledydd rhwng
pawb yn gyfartal. Bu yr Arlywydd yn dioddef effeithiau yr ergydion hyd 2:15
boreu Sadwrn, Medi 14, pryd yr ehedodd ei ysbryd at Dduw yr hwn a’i rhoes ef.
Claddwyd ef yn ei feddrod ei hun yn Canton, Ohio, y dydd Iau canlynol, wedi
cael gwasanaeth teimladwy ac urddasol yn Buffalo ac yn Washington. Act gyntaf
ei olynydd, Mr. Theodore Roosevelt, ydoedd cyhoeddi dydd Iau yn ddydd o ymostyngiad
a gweddi yn holl eglwysi y Weriniaeth, yr hyn a wnaed gyda ffyddlondeb anghyffredin.
Cyfrifir Mr. McKinley yn un o’r Arlywyddion puraf
ei gymeriad, doethaf ei weinyddiadau, ac anwylaf gan y bobl o’r un a fu o’i
flaen, heb eithrio Washington a Lincoln. Yn ystod y pum mlynedd diweddaf, aeth
y wlad trwy ryfel Spaen, eangodd ei thiriogaethau yn Porto Rico a’r Philippines,
a chynyddodd ei masnach yn aruthrol. Llwyddodd i enill calon ein Talaethau Deheuol,
nes iachau hen greithiau y Gwrthryfel, a pheri adfywiad gwladwriaethol trwy
yr holl ranbarth yma o’r Weriniaeth. Nid rhyfedd ei fod gymaint yn serch y bobl,
ac mor uchel ei barch trwy y gwledydd. Yr oedd yr olaf i neb yn meddu cydwybod
bur ei wneyd yn nod i frad a llofruddiaeth. Eto torwyd ef i lawr yn nganol ei
ddefnyddioldeb, pan yn 58 mlwydd a 7 mis oed.
Coron ei ragoriaethau ydoedd ei grefyddoldeb.
Terfynodd ei anerchiad yn Buffalo—yr olaf, gyda gweddi. Pan ar y bwrdd i fyned
o dan arfau y meddyg, caed ef mewn gweddi ddwys. A’r gair olaf a glywyd o’i
enau ydoedd,
“Nearer, my God, to Thee,
“Nearer to Thee.”