Publication information
view printer-friendly version
Source: Lamp
Source type: magazine
Document type: article
Document title: “Yr Arlywydd McKinley”
Author(s): D.
Date of publication: October 1901
Volume number: 5
Issue number: 58
Pagination: 312

 
Citation
D. “Yr Arlywydd McKinley.” Lamp Oct. 1901 v5n58: p. 312.
 
Transcription
full text
 
Keywords
McKinley assassination; William McKinley (presidential character); William McKinley (religious character).
 
Named persons
Leon Czolgosz; Abraham Lincoln; William McKinley; Theodore Roosevelt; George Washington.
 
Notes
The text below is reproduced as given in the original source. Language errors (if any) are likewise reproduced.
 
Document

 

Yr Arlywydd McKinley

YN y Temple of Music, Pan-American Exposition, Buffalo, New York, prydnawn Gwener, Medi 6, 1901, pan ar ganol ysgwyd llaw a’r bobl, saethwyd dwy ergyd i fynwes ein Harlywydd, William McKinley, gan ddyn ieuanc o’r enw, Leon Czolgosz, genedigol o Poland, ac aelod o undeb yr Anarchiaid—sydd yn dysgu diddymiad y llywodraethau gwladol trwy lofruddiaethau, a rhaniad cyfoeth y gwledydd rhwng pawb yn gyfartal. Bu yr Arlywydd yn dioddef effeithiau yr ergydion hyd 2:15 boreu Sadwrn, Medi 14, pryd yr ehedodd ei ysbryd at Dduw yr hwn a’i rhoes ef. Claddwyd ef yn ei feddrod ei hun yn Canton, Ohio, y dydd Iau canlynol, wedi cael gwasanaeth teimladwy ac urddasol yn Buffalo ac yn Washington. Act gyntaf ei olynydd, Mr. Theodore Roosevelt, ydoedd cyhoeddi dydd Iau yn ddydd o ymostyngiad a gweddi yn holl eglwysi y Weriniaeth, yr hyn a wnaed gyda ffyddlondeb anghyffredin.
     Cyfrifir Mr. McKinley yn un o’r Arlywyddion puraf ei gymeriad, doethaf ei weinyddiadau, ac anwylaf gan y bobl o’r un a fu o’i flaen, heb eithrio Washington a Lincoln. Yn ystod y pum mlynedd diweddaf, aeth y wlad trwy ryfel Spaen, eangodd ei thiriogaethau yn Porto Rico a’r Philippines, a chynyddodd ei masnach yn aruthrol. Llwyddodd i enill calon ein Talaethau Deheuol, nes iachau hen greithiau y Gwrthryfel, a pheri adfywiad gwladwriaethol trwy yr holl ranbarth yma o’r Weriniaeth. Nid rhyfedd ei fod gymaint yn serch y bobl, ac mor uchel ei barch trwy y gwledydd. Yr oedd yr olaf i neb yn meddu cydwybod bur ei wneyd yn nod i frad a llofruddiaeth. Eto torwyd ef i lawr yn nganol ei ddefnyddioldeb, pan yn 58 mlwydd a 7 mis oed.
     Coron ei ragoriaethau ydoedd ei grefyddoldeb. Terfynodd ei anerchiad yn Buffalo—yr olaf, gyda gweddi. Pan ar y bwrdd i fyned o dan arfau y meddyg, caed ef mewn gweddi ddwys. A’r gair olaf a glywyd o’i enau ydoedd,

“Nearer, my God, to Thee,
Nearer to Thee.”

 

 


top of page